GWASANAETH CWSMERIAID Mae gennym amrywiaeth helaeth o gwsmeriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac rydym yn barod i deithio i’ch cyfarfod. Mae’n cwsmeriaid yn weithgar mewn llawer i faes busnes gan gynnwys Ffermio, Peirianneg Sifil, Adeiladu, Cadw Gwestai, Tafarndai a Siopau, Adloniant a maes Cymdeithasau Elusennol. Cawn bob math o gwsmeriaid, yn unigolion, yn hunan-gyflogedig,yn bartneriaid ac yn gwmniau. Rydym yn addasu ein gwasanaeth a’n ffioedd i gwrdd â gofynion ein cwsmeriaid. Mae’n gwasanaeth i bob un o’n cwsmeriaid yn gwbwl gyfrinachol a phersonol. |
|