
Gall cyflogwyr bryderu am ddefnyddio Cytundebau Peidio â Datgelu (NDA) yn dilyn cyfres o straeon yn y wasg sydd wedi tynnu sylw at gamddefnyddio'r system.
Mae gan y cytundeb le mewn busnes, yn ôl y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS). Gall cwmnïau ofyn i weithwyr lofnodi NDA fel amod cyflogaeth er mwyn diogelu buddiannau busnes dilys.
Daw'r cytundeb yn ddi-rym yn gyfreithiol os yw'r cwmni'n ceisio cuddio aflonyddu yn y gweithle, gwahaniaethu neu weithgareddau troseddol penodol.
Pryd y defnyddir NDAs
Fel arfer, defnyddir NDAs pan fydd rhywun yn dechrau swydd newydd, i ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol cwmni neu pan fydd ei swydd yn dod i ben, efallai yn dilyn anghydfod, i gadw'r manylion yn gyfrinachol.
Mae cytundeb peidio â datgelu yn gyfreithiol rwymol ac yn orfodadwy. Os na fydd un parti'n cadw at delerau'r cytundeb, gall y parti arall fynd â nhw i'r llys am dor-cytundeb.
Gellid dyfarnu iawndal.
Mae cytundebau setlo fel arfer yn dod o fewn diffiniad NDA a gellir eu defnyddio ar ôl datrys anghydfod yn y gwaith, hyd yn oed os yw'r gweithiwr yn aros yn ei swydd. Yn yr achosion hyn, mae'r setliadau ariannol y cytunwyd arnynt, y telerau neu'r amgylchiadau a arweiniodd at y setliad yn aros yn gyfrinachol.
Pan fydd NDAs yn methu
Nid yw llawer o NDAs yn gyfreithiol rwymol nac yn orfodadwy. Er enghraifft, mae chwythwr chwiban, sef rhywun sy'n adrodd am gamymddwyn yn y gwaith sy'n effeithio ar eraill, gan gynnwys y cyhoedd, wedi'i eithrio. Gelwir hyn yn 'gwneud datgeliad er budd y cyhoedd'.
Yn yr un modd, ni fydd adrodd am drosedd i'r heddlu na rhannu gwybodaeth am drosedd, ynghyd â thrafod eu cyflog ag unrhyw un yn y gwaith am resymau sy'n ymwneud â chyflog cyfartal, yn dod o dan gytundeb NDA.
Gellir dod o hyd i ganllawiau ACAS yn www.acas.org.uk/non-disclosure-agreements

Mae Llywodraeth y DU wedi datgelu ei hymateb cynhwysfawr i’r ymgynghoriad ar gyflwyno mesuryddion clyfar ar ôl 2025 ar gyfer safleoedd annomestig.

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi newid ei broses mewngofnodi ac o fis Rhagfyr ymlaen rhaid gwneud gwrthwynebiadau i gwmni cyfyngedig gael ei ddileu o’r gofrestr drwy ei wasanaeth ar-lein ‘Gwneud gwrthwynebiad’.
.png)






