Gyrfaoedd

SWYDD GWAG—RHEOLWR PRACTIS

Rydym yn chwilio am Reolwr Practis llawn amser i ymuno â’n swyddfa brysur yn Aberystwyth.

Dyletswyddau i gynnwys:

Gweinyddiaeth swyddfa gyffredinol, cadw llyfrau practis gan gynnwys paratoi ffurflenni TAW, casglu dyledion, cynnal a chadw cofnodion cyfriflyfr ffioedd mewnol a chontractau a chofnodion cyflenwyr, llythyrau ymgysylltu â chleientiaid, rheoli dyddiadur terfynau amser, cofnodion cymorth cyntaf a diogelwch tân, cydlynu cyrsiau DPP, cynnal a chadw gwefan y busnes a chyfryngau cymdeithasol.

Graddfa gyflog: £20,000-£22,000

Llawn amser: 37 awr yr wythnos

Dydd Llun i ddydd Iau: 9yb – 5:30 yp

Dydd Gwener: 9yb – 5yp

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni:

Ffôn: 01970 612231

Ebost: info@daviesandlewis.com

Cysylltwch â ni i drefnu ymgynghoriad.

Cysylltwch â ni i siarad â phartner.
Siaradwch â Phartner