Mae Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws yn newid:

O 1 Gorffennaf, gall cyflogwyr ddod â gweithwyr yn ôl i’r gwaith sydd wedi bod ar ffyrlo o’r blaen am unrhyw faint o amser ac unrhyw batrwm shifft, wrth barhau i allu hawlio grant Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws am eu horiau arferol na chawsant eu gweithio. Wrth hawlio’r grant am oriau ffyrlo, bydd angen i gyflogwyr adrodd a hawlio am gyfnod o wythnos o leiaf.

Bydd y cynllun yn cau i ymgeiswyr newydd o 30 Mehefin. O’r pwynt hwn ymlaen, mi fydd cyflogwyr dim ond yn medru rhoi gweithwyr ar ffyrlo os mae nhw wedi bod ar ffyrlo yn barod am gyfnod o 3-wythnos cyn 30 Mehefin.

Mae hyn yn golygu mai’r dyddiad olaf y mae angen i gyflogwr gytuno â’i weithiwr a sicrhau ei fod yn ei roi ar ffyrlo yw 10 Mehefin. Bydd gan gyflogwyr tan 31 Gorffennaf i wneud unrhyw hawliadau mewn perthynas â’r cyfnod hyd at 30 Mehefin.

Cyhoeddir arweiniad pellach ar ffyrlo hyblyg a sut y dylai cyflogwyr gyfrifo hawliadau ar 12 Mehefin. Darganfyddwch ragor o wybodaeth ar sut mae Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws yn newid.

Gweler: https://www.gov.uk/guidance/work-out-80-of-your-employees-wages-to-claim-through-the-coronavirus-job-retention-scheme?utm_source=87f40ebb-df6b-4d74-8886-19c77c76524c&utm_medium=email&utm_campaign=govuk-notifications&utm_content=immediate