05/04/2020

Yn yr amser ansicr hwn llawn newidiadau cyflym, rydym eisiau sicrhau i bob un o’n cleientiaid ein bod yma i gefnogi, arwain a darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi a’ch busnesau i oroesi a symud ymlaen.

Yn ogystal â phostio diweddariadau ar ein gwefan a Facebook, rydym yn tanysgrifio i ofod adnoddau sy’n hygyrch trwy ein gwefan. Mae ganddo’r datblygiadau, canllawiau a newyddion diweddaraf ar bynciau pwysig, gan gynnwys:

Cynllun cymorth incwm hunangyflogaeth

Cynllun cadw swyddi

Cynllun benthyciad ymyrraeth busnes

Cynllunio busnes

 

Mae yna lawer o gwestiynau yn cael eu gofyn, a gyda gwybodaeth yn newid mor gyflym rydyn ni’n cynghori ein cleientiaid i ddefnyddio’r porth yma ac wrth gwrs, os oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau i gysylltu â ni.

Gellir dod o hyd i’r gofod adnoddau cleientiaid yn: http://clientresources.co.uk/

Pwnc arbennig o bwysig ar hyn o bryd yw Cymorth Incwm Hunangyflogedig ac mae hefyd yn un y mae gan gleientiaid y fwyaf o gwestiynau amdano. Yn anffodus, ar hyn o bryd ni all asiantau (cyfrifwyr) wneud hawliad ar eich rhan, felly rydym yn eich cyfeirio at ddwy erthygl sydd i’w gweld yn y gofod Adnoddau Cleient isod..

Mae’r erthyglau hyn yn arbennig o bwysig, mae’r cyntaf yn ateb cwestiynau ac yn eich tywys trwy sut i sefydlu cyfrif Porth y Llywodraeth er mwyn hawlio Cymorth Incwm Hunangyflogedig, mae’r ail yn tynnu sylw at sut y bydd Cyllid a Thollau EM yn cysylltu â chi, y gwiriwr cymhwysedd ar-lein newydd a phryd y bydd gellir disgwyl taliadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl darllen yr erthyglau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

*Mae’r erthyglau dim ond ar gael yn y Saesneg*

 

http://clientresources.co.uk/wp-content/uploads/2020/05/Opening-Gateway-Self-Employed-Income-Support-SEIS-under-the-Coronavirus-scheme.pdf

 

http://clientresources.co.uk/wp-content/uploads/2020/05/Self-Employed-Income-Support-Scheme-Opens-Earlier-than-Expected.pdf